Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y Polisi Amaethyddol Cyffredin
CAP(4)-2-11 Papur 1

 

Ymchwiliad Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Polisi Amaethyddiaeth Cyffredin i’r cynigion ar gyfer diwygio’r Polisi Amaethyddiaeth Cyffredin

 

Papur oddi wrth Ddirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd.

 

Cyflwyniad

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi symud amaethyddiaeth a bwyd i brif ffrwd ei pholisi economaidd – a chydnabod cyfraniad amaethyddiaeth a bwyd at allbwn economaidd Cymru, yn enwedig yng nghyd-destun economi cefn gwlad.  Mae cynnal y diwydiant amaeth yn golygu ei drin yn yr un ffordd â sectorau pwysig eraill yr economi – elw a ffyniant yw’r ffordd ymlaen.  Bydd diwydiant llwyddiannus yn darparu bwyd i bob rhan o Gymru a thu hwnt, yn sicrhau sefydlogrwydd cymdeithasol ledled y Gymru wledig, yn gwneud cyfraniad amlwg at ddiogelu’r cefn gwlad y mae ein cymunedau trefol ac ymwelwyr â Chymru yn ei garu gymaint ac yn elwa ar gynnal ein diwylliant a’n hiaith.

 

Rhaid wrth PAC cryf ar ddyfodol cefn gwlad Cymru.  Mae ar ffermio angen y PAC – mae’n cyfrif am hyd at 80 i 90% o incwm ffermydd Cymru.  Wrth gwrs, rhaid inni weithio at leihau dibyniaeth y diwydiant ar gymhorthdal ac mae llawer o’r mecanweithiau cymorth sydd eisoes yn cael eu rhoi ar waith trwy’r rhaglen Datblygu Gwledig yn gwneud hynny.  Byddai chwyldroi’r PAC ar y llaw arall yn tynnu’r llawr oddi tan ffermwyr ac yn peryglu eu busnesau.  Rwy’n gredwr cryf mewn newid mwy graddol neu esblygu’r PAC.  Mae’r PAC yn gorfod newid am fod y byd wedi newid, mae ffermio wedi newid ac mae’r heriau sy’n wynebu cymdeithas wedi newid.  Teg o beth felly yw diwygio’r PAC ond rhaid gofalu nad yw’r newidiadau angenrheidiol hyn yn chwalu’i sylfeini nac yn peryglu dyfodol cefn gwlad Cymru.

 

Yn ogystal, nid yw’n realistig disgwyl i reolwyr tir wneud gwelliannau amgylcheddol sy’n mynd i gostio arian iddyn nhw.  Nid yw’n ormod gofyn i ffermwyr ffermio mewn ffordd gyfrifol o safbwynt yr amgylchedd, yn wir dyna pam mae trawsgydymffurfio’n amod o’r Taliad Sengl.  Mae’r heriau amgylcheddol yn tyfu gyda’r angen i wella ansawdd dŵr; lleihau llifogydd; lleihau allyriadau carbon deuocsid ac ocsid nitraidd a dal carbon yn ein pridd.  Ni welwn welliannau yn hyn o beth oni gallwn weithio gyda ffermwyr i gymryd y camau sydd eu hangen a’u digolledu am y costau sydd ynghlwm â hynny.  Mae’r costau hynny’n gallu bod yn sylweddol.

 

Gyda pheth petrusgarwch felly, rwy’n croesawu cyhoeddi’r cynigion deddfwriaethol ffurfiol ar gyfer diwygio’r PAC a gyhoeddwyd gan y Comisiwn ar 12 Hydref.  Dyma fydd sail y trafod a’r negodi o hyn ymlaen.  Rydym wedi cychwyn dadansoddi’r dogfennau mawr hyn ac mae’r dystiolaeth rwyf yn ei chyflwyno ichi yn y papur hwn o raid ond yn seiliedig ar olwg gychwynnol ar gynigion y Comisiwn.  Rhaid imi bwysleisio y gallai’r cytundeb terfynol ar gyfer diwygio’r PAC fod yn wahanol iawn i’r cynigion sydd gerbron.

 

Bydd y Llywodraeth yn parhau i helpu’r grŵp â’i ymchwiliadau i’r cynigion ar gyfer diwygio’r PAC.  Byddaf yn gwneud datganiadau ysgrifenedig a llafar i wneud yn siwr bod holl Aelodau’r Cynulliad yn gwybod y diweddaraf wrth i’r broses fynd yn ei blaen dros y blynyddoedd i ddod a rwyf am roi cyfle i’r cyfarfod llawn drafod y mater hwn mewn da bryd cyn diwedd Tachwedd.

 

Bydd y trafod yn debygol o droi yn bennaf o gwmpas maint cyllideb y PAC, sut y caiff ei rhannu ymhlith yr aelod-wladwriaethau, beth fydd sail y taliadau i ffermwyr yn y dyfodol, gwneud Colofn 1 yn wyrddach, hyblygrwydd i’r rhanbarthau a symleiddio’r weinyddiaeth.

 

Mae’r cynigion yn golygu bod fframwaith y PAC yn dal i fod yn seiliedig ar ddwy golofn sy’n defnyddio cyfryngau ategol i gyrchu am yr un amcanion.  Bydd Colofn 1 yn parhau i ymdrin â thaliadau uniongyrchol a helpu’r farchnad er mwyn rhoi cymorth incwm blynyddol sylfaenol i ffermwyr a chynhaliaeth rhag problemau mewn marchnad benodol. Mae Colofn 2 yn ymdrin â datblygu gwledig ac yn cefnogi rhaglenni amlflynyddol o dan fframwaith cytun.

 

Ar gyfer Colofn 1Dyma yw prif elfennau’r cynigion:

 

 

Taliadau Uniongyrchol

 

Y Cynllun Taliad Sylfaenol

 

Capio

 

Taliad Gwyrdd

 

Cronfa Genedlaethol

 

Cynllun Ffermwyr Bach

 

Cymorth Cysylltiedig (Amlen Genedlaethol)

 

Hyblygrwydd rhwng Colofnau

 

Ffermwr Actif

 

Cyfyngiadau Naturiol

 

 

Ymarfer Ailddynodi’r ALFf

 

Mae’r Comisiwn wedi ceisio datblygu dull cyffredin trwy’r UE cyfan ar gyfer pennu ffiniau ALFf neu Ardaloedd â Chyfyngiadau Naturiol (AChN).  Caiff yr ALFf ei hadnabod fel yr AChN.  Mae hwn yn ymarferiad mapio annibynnol, heb fod yn rhan o broses ddiwygio’r PAC.  Ond y bwriad yw ei ddatblygu i gyd-fynd ag amserlen diwygio’r PAC.

 

Fy mhrif flaenoriaeth yn hyn o beth yw sicrhau bod cyn lleied o’r ffin â phosibl ei newid.  Cewch fwy o fanylion am yr ymarferiad hwn yn Atodiad 2.

 

Troi i Golofn 2  Mae’r rheoliadau drafft yn braenaru’r tir i’r Comisiwn allu mynnu bod Aelod-wladwriaethau’n canolbwyntio’u sylw’n dynnach ar ymyriadau sy’n cyflawni amcanion ‘Ewrop 2020’, sef twf call, cynaliadwy a chynhwysol.

 

Tri phrif amcan y Comisiwn fydd ffocws datblygu gwledig yn y dyfodol:

 

 

Rydym yn croesawu hyn gan ei fod yn ategu llawer o’n polisïau a’n gweithredoedd, fel ag y’u gwelir yn ein ‘Rhaglen Lywodraethu’ ddiweddar.

 

Ystyriaeth bwysig i Gymru yw i ba raddau y gellid defnyddio gweithredoedd o dan y Cynllun Datblygu Gwledig nesaf i leddfu effaith y symudiad o Gynllun Taliad Sengl hanesyddol i daliadau arwynebedd fel rhan o’r diwygiadau Colofn 1 a ddisgrifir uchod.

 

Mae’r rheoliadau’n tanlinellu pwysigrwydd gweithredoedd amaeth-amgylcheddol; maent yn parhau’n elfen orfodol y mae’n rhaid i wledydd ei chynnwys yn eu Rhaglenni Datblygu Gwledig.  O asesiad cychwynnol o’r cynigion drafft, ymddengys fel newid bychan, y cyfeirir at y mesur o hyn ymlaen fel y mesur amaeth-amgylcheddol-hinsawdd ac yn bwysicach na hynny, mae ffermio organig yn cael ei osod fel mesur ynddo’i hun.  Mae hyn yn cydnabod rôl bwysig ffermwyr wrth arafu’r newid yn yr hinsawdd ac addasu iddo, a’r pwysigrwydd y mae’r Comisiwn yn ei roi i ffermio organig fel system ffermio gynaliadwy.  Yng Nghymru, caiff hyn ei ddwyn yn ei flaen gan Glastir a gafodd ei greu â’r amcan allweddol o wireddu Blaenoriaethau Archwiliad Iechyd y PAC.  Y cynllun hefyd fydd ein hamddiffyniad mwyaf rhag torri’n dyletswyddau o dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr a’r Cyfarwyddebau Cynefinoedd, ac mae’n adeiladu ar fuddsoddiadau enfawr ffermwyr o dan y cynlluniau amaeth-amgylcheddol presennol.  Er bod rhai’n siomedig â’r nifer sydd wedi ymgeisio am yr Elfen Cymru Gyfan, mae’n bwysig cofio bod rhyw 7,000 o ffermwyr sydd eisoes â chytundebau amaeth-amgylcheddol wedi gofyn am gael estyn eu cytundebau tan ddiwedd 2013.  Er i hynny olygu bod llai o alw am y cynllun yn ei flwyddyn gyntaf, mae’r nifer wnaeth ymgeisio am yr Elfen Cymru Gyfan yn ei blwyddyn gyntaf yn dal i fod dipyn uwch na’r ceisiadau blynyddol am unrhyw gynllun amaeth-amgylcheddol arall erioed.

 

Mae fy nghyhoeddiadau diweddar yn sicr o olygu twf i Glastir.  Rydym wedi ailweithio costau’r Elfen Cymru Gyfan, sy’n golygu taliad uwch sydd bron £40 yr hectar, o’i gymharu â £24 neu £28.50 yr hectar o dan y cynllun Tir Mynydd.

 

Ar ddechrau’r trafodaethau fel hyn, teimlir na chaiff y newidiadau fawr o effaith ar Glastir.  Er hynny, ni fydd modd cynnal asesiad llawn o’u heffaith tan ar ôl cyhoeddi’r rheoliadau gweithredu gwyrdd a datblygu gwledig.

 

Mae’n arbennig o dda gen i ddeall bod y Comisiwn am roi mwy o bwyslais ar integreiddio’r Cronfeydd Strwythurol (ESF, ERDF, Cydlyniant) a’r cronfeydd gwledig (EAFRD) a physgodfeydd (EMFF) trwy Fframwaith Strategol Cyffredin.  O’i wneud yn dda a thrwy gydweithio a chydweithredu tynnach, gallai symleiddio’r drefn ar gyfer cael at arian a nawdd a gwella’r ffordd y cynhelir y rhaglenni.  Mae cynigion y Comisiwn yn argoeli’n dda o ran symleiddio a chysoni’r rheolau ymuno.  Yn ei dro, bydd systemau rheoli mwy cymharus yn helpu i ysgogi trefniadau mwy hyblyg ar gyfer ei ddarparu.  Mae gen i ddiddordeb mawr hefyd yn ymgyrch y Comisiwn i weld mwy o ddefnydd ar yr ‘Offerynnau Peiriannu Ariannol’.  Mae hyn yn destun calondid i mi ac edrychaf ymlaen at weld sut y gallwn gynyddu gwerth buddsoddiadau ad-daladwy o’r fath – mae un neu ddau ohonynt wedi’u harloesi’n llwyddiannus yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf.

 

Dau o’m prif flaenoriaethau ar gyfer rhaglenni’r dyfodol yw sicrhau mwy o hyblygrwydd er mwyn inni allu addasu rhaglenni i ateb gofynion penodol Cymru, a symleiddio rhaglenni.  O safbwynt symleiddio, er bod y Comisiwn wedi cynnig mesurau newydd yn unswydd i symleiddio trefniadau a phrosesau, yn eu gwrthbwyso y mae nifer o ofynion ychwanegol na fydd, yn fy marn i eto, yn ychwanegu unrhyw werth at unrhyw beth.  Er enghraifft, gallai cynigion y Comisiwn ar gyfer ‘fframwaith perfformiad’ gymell rhai rhanbarthau i gynnal rhaglenni sy’n canolbwyntio ar ‘enillion rhwydd’ yn hytrach nag ar raglenni sy’n mynd i’r afael â’r problemau mwyaf sy’n wynebu’r rhanbarthau hynny. Hefyd, nid yw’n glir eto sut y bydd amodau macro-economaidd arfaethedig y Comisiwn yn gwella perfformiad, ac mae perygl y gallent gosbi’r rhanbarthau ac Aelod-wladwriaethau sydd â’r angen mwyaf am arian.

 

Testun gofid arbennig yw bod y Comisiwn i bob golwg yn gwneud gweinyddiad y PAC yn fwy cymhleth.  Mae hyn yn ychwanegu at faich Llywodraeth Cymru a baich ffermwyr hefyd.  Byddaf yn ceisio cael y DU i bwyso’n galed i symleiddio’r prosesau sy’n rhan o’r pecyn diwygio presennol.

 

Bydd gweithio â phartneriaid ar draws Ewrop, y DU ac o fewn Cymru yn allweddol i ddatblygu a darparu rhaglenni’r dyfodol yn llwyddiannus.  Felly, yn ogystal â gweithio’n glòs â chyfranwyr pwysig ar lefel yr UE a’r DU, rwyf wedi sefydlu Fforwm Partneriaeth Rhaglenni Ewropeaidd.  Drwyddo, bydd ein prif bartneriaid strategol yng Nghymru yn ein helpu i ystyried cyfeiriad a chynnwys unrhyw raglenni newydd yng Nghymru.  Cynhaliwyd ei gyfarfod cyntaf eisoes ac ym mis Tachwedd, byddaf yn lansio ymarfer myfyrio i roi cyfle i’n holl bartneriaid yng Nghymru ddweud eu dweud ar strategaeth y dyfodol a’r blaenoriaethau pwysicaf i Gymru.  Byddaf yn gwrando hefyd ar farn Aelodau’r Cynulliad.

 

Unwaith y bydd yr Aelodau a’n Partneriaid wedi’n helpu i benderfynu ar gyfeiriad strategol ein rhaglenni Ewropeaidd, bydd angen inni ddatblygu rhaglenni drafft newydd gyda’r bwriad o ymgynghori’n llawn arnynt tuag at ddiwedd 2012 cyn dechrau trafod eu manylion gyda’r Comisiwn.

 

Prif ystyriaethau wrth ddatblygu cynlluniau ar gyfer cyflawni rhaglenni newydd yr UE gan gynnwys Cynllun Datblygu Gwledig nesaf Cymru:

 

 

 

 

 

 

Casgliad

 

Mae’n fater i’r cofnod cyhoeddus nad yw Llywodraeth Cymru yn cytuno â barn Llywodraeth y DU ar leihau cyfanswm cyllideb yr UE nac ar ei barn ynghylch y Cronfeydd Strwythurol na’r PAC.  Er y gwahaniaeth hwn, rwyf wedi ymrwymo i weithio’n adeiladol gyda Gweinidogion yn Llundain ac yn yr Alban a Gogledd Iwerddon i sicrhau canlyniad ymarferol i’r DU – ac i Gymru.  Byddaf am wneud yn siwr bod Cymru’n cael chwarae rhan bositif ac adeiladol o ran llywio safbwynt a dull gweithio’r DU.  Rwyf hefyd wedi’i gwneud yn glir i Weinidogion Llywodraeth y DU mai uchelgais Cymru yw bod yn aelod llawn o dîm y DU.

 

Rwyf wedi gwneud fy marn yn glir ar bob un o brif elfennau’r cynigion ar gyfer diwygio’r PAC.  Ar sail y farn honno y byddaf yn negodi.  Cynhaliwyd fy nghyfarfod cyntaf ar 19 Hydref gyda’r gweinyddiaethau datganoledig a Defra cyn cyfarfod Cyngor y Gweinidogion Amaeth yn Luxemburg ar 20 Hydref.  Cefais gwrdd â nhw unwaith eto yng nghyfarfod y Gweinidogion Datganoledig ar 25 Hydref, a byddaf yn cwrdd â Daclan Ciolos, Comisiynydd amaethyddiaeth a datblygu gwledig Ewrop, ar 14 Tachwedd


                                                                                                                                    Atodiad 1

Newid taliadau amaethyddol o fod yn rhai hanesyddol i fod yn rhai’n seiliedig ar dir

Mae’r nodyn hwn yn ystyried un agwedd yn unig o’r rownd ddiweddaraf i ddiwygio’r Polisi Amaethyddol Cyffredin.  A hwnnw yw newid y system dalu sy’n seiliedig ar hawliau hanesyddol i un sy’n seiliedig ar faint o dir yr hawlir arno.  Er mwyn dangos effaith newid y system yn unig, gwneir tair rhagdybiaeth:

·         Dyma’r unig newid a wneir. Ni ystyrir yr elfennau eraill sy’n cael eu diwygio,

·         Bydd pob fferm sy’n hawlio nawr yn parhau i hawlio ar yr un faint o dir,

Dosbarthiad hawliau hanesyddol ar gyfer blwyddyn dalu 2010/11

Mae’r siart uchod yn dangos sut mae taliadau’n cael eu dosbarthu.  Y prif bwynt yw bod tuedd mawr tua’r ffermwyr sy’n derbyn taliadau mwy.  Mae ychydig dros 90 y cant o’r arian yn mynd i ychydig dros hanner y ffermwyr sy’n hawlio.  Mae’n bwysig ein bod yn ystyried mwy na dim ond nifer y ffermwyr fydd ar eu hennill neu ar eu colled oherwydd y newid.

Dosbarthiad hawliau hanesyddol yr hectar blwyddyn dalu 2010/11

Pe bai taliad unffurf wedi’i dalu yn 2010/11, €248 yr hectar fyddai’r taliad hwnnw.  Byddai unrhyw fferm sy’n derbyn mwy na €248 yr hectar ar ei cholled o dan y drefn newydd a byddai unrhyw un sy’n derbyn llai ar eu hennill.  Mae’r siart yn dangos bod y taliadau yr hectar o dan y drefn hanesyddol yn amrywio’n fawr.  Gallwn felly ddisgwyl gweld cryn newid wrth symud at drefn sy’n seiliedig ar dir. 

Dosbarthiad y newid o drefn hanesyddol i drefn sy’n seiliedig ar dir

Rhagdybir bod cyfanswm yr hyn a delir yn aros yr un fath.  Felly byddai unrhyw arian ychwanegol sy’n cael ei roi i fferm sydd ar ei hennill yn gorfod dod o arian sy’n cael ei golli gan fferm fydd ar ei cholled.

Prif bwynt y siart yw mai gymharol ychydig o ffermydd (tua 17 y cant) fydd yn aros o fewn 10 y cant i’w taliad presennol.  Mae hyn yn pwysleisio maint y newid a fydd yn wynebu’r sector pan gaiff trefn eu talu ei newid.

Bydd bron hanner y ffermydd ar eu hennill o 10 y cant  fan leiaf gyda rhyw 28 y cant o’r ffermydd hyn ar eu hennill o o leiaf hanner eu taliad presennol.  I dalu am yr enillion hyn, bydd rhyw 16 y cant o ffermydd yn colli o leiaf 30 y cant o’u taliad presennol.

O astudio’r sefyllfa ymhellach, ymddengys mai’r ffermydd sy’n hawlio llai ac sy’n cynnal llai o weithgarwch ffermio fydd ar eu hennill.  Y ffermydd fydd ar eu colled yw’r rheini sy’n tueddu i hawlio mwy, yn enwedig yn y sector godro.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

                                                                                                            Atodiad 2

 

Ymarfer Ailddynodi’r Ardal Lai Ffafriol (ALFf) –  Y Sefyllfa yng Nghymru

 

Cefndir

 

Mae dros 1.6 miliwn hectar o dir amaethyddol yng Nghymru.  Mae hwnnw’n cynnwys tir comin a thir pori garw, ac mae rhyw 80 y cant o’r cyfanswm, sef rhyw 1.28 miliwn hectar yn yr Ardal Lai Ffafriol (ALFf).

 

Mae’r Comisiwn Ewropeaidd wrthi’n ceisio datblygu dull cyson trwy’r UE i bennu ffiniau Ardaloedd Llai Ffafriol ym mhob gwlad.  Yn y Rheoliad Datblygu Gwledig drafft, mae’r ALFf wedi cael enw newydd, sef Ardal â Chyfyngiadau Naturiol (AChN).  Cafodd ffin yr ALFf ei phennu trwy ddefnyddio meini prawf cymdeithasol-economaidd.

 

Mae’r ymarferiad ailddynodi’n defnyddio dull sy’n seiliedig ar set o feini prawf biolegol-ffisegol yn bennaf i bennu’r ffin, gyda throthwyon ar gyfer pridd, llethrau a hinsawdd a fydd yn cael eu cymhwyso ym mhob un o 27 gwlad yr UE.  Bydd y dull hwn o ddefnyddio meini prawf bioffisegol yn sicrhau mwy o gysondeb ac yn osgoi dylanwadau cymdeithasol-economaidd.

 

 

Y Sefyllfa ar hyn o bryd:

 

Mae llawer o waith efelychu mapiau wedi’u wneud yng Nghymru ar sail meini prawf bras cyntaf y Comisiwn.  Fodd bynnag, nid yw’r meini prawf cychwynnol hyn yn cydnabod pa mor wlyb y mae priddoedd mewn gwledydd fel Cymru sydd â hinsawdd arforol y gorllewin.  

 

Llwyddodd swyddogion Materion Gwledig i gael y Comisiwn i gytuno i gynnwys dyddiau Capasiti’r Cae (Field Capacity days – FCD) fel un o’r prif feini prawf ar gyfer mapio, er mwyn mesur gwlybaniaeth y pridd.  Roedd cael y Comisiwn i dderbyn y cysyniad o’r FCD fel un o’r prif feini prawf ar gyfer mapio yn hanfodol er mwyn sicrhau bod y broses ailddynodi yn esgor ar ganlyniad adeiladol i Gymru. 

 

Yn ei hanfod, Dyddiau Capasiti’r Cae (FCD) yw nifer y dyddiau bob blwyddyn pan fydd y pridd yn rhy wlyb i gynnal gweithgarwch amaethyddol arno.  Mae hyn yn gyfyngiad arwyddocaol mewn sawl rhan o Gymru.

 

Mae ymarferiad mapio wedi’i gynnal yng Nghymru gan ddefnyddio’r meini prawf bioffisegol, gan gynnwys yr FCD.  Mae’r canlyniadau cyntaf yn awgrymu bod ffiniau’r AChN yn weddol debyg i ffiniau’r ALFf, ac na fydd newid mawr.  Fodd bynnag, mae angen gwneud mwy o waith modelu cyn y gallwn ddod i gasgliadau pendant. Y bwriad yw cynnal y gwaith modelu hwn yn ....?

 

Pennir yn derfynol union ffin yr AChN yng Nghymru ar ddiwedd yr ymarfer ailddynodi, a hon fydd y ffin a ddefnyddir i ddangos pa ardaloedd allai fod yn gymwys am gymorth ychwanegol mewn ardaloedd mynyddig a allai gael ei ddatblygu o dan y Cynllun Datblygu Gwledig nesaf.

 

 

 

Amserlen amcanol y DU ar gyfer Ymarfer Ailddynodi’r ALFf.

 

 

Ebrill 2011                Cyhoeddi yn y Pwyllgor Datblygu Gwledig yn Ebrill 2011 y mapiau bras cyntaf sy’n defnyddio’r meini prawf bioffisegol ar gyfer nodi ffiniau ardaloedd ag anfanteision naturiol gan ddefnyddio gwybodaeth o bob un o’r 27 aelod-wladwriaeth a gyflwynwyd i’r Comisiwn.

Mehefin 2011           Y Comisiwn yn cynnig newid rhai o’r meini prawf bioffisegol yn y Pwyllgor DG Meh 2011, gan awgrymu mwy o waith modelu a dull posibl ar gyfer efelechu mapiau ym mhob aelod-wladwriaeth.

7 Gorffennaf 2011   Cyfarfod dwyochrol rhwng DU a’r Comisiwn. O ganlyniad, derbyn Dyddiau Capasiti’r Cae (FCD) fel un o’r prif feini prawf a rhoi hyblygrwydd i’r rhanbarthau allu caboli manylion y meini prawf.

Gorffennaf 2011      Y Comisiwn yn cyhoeddi taflen ffeithiau ar ddull efelychu mapiau ar gyfer FCD.

Gorffennaf 2011      Mae’r Comisiwn wedi dweud wrth DEFRA mai mater gwirfoddol yw cynnal rhagor o waith modelu gan ddefnyddio’r meini prawf diwygiedig, ond byddai’n cynghori’n gryf o blaid gwneud i fod yn barod ar gyfer y cynigion ar gyfer polisi datblygu gwledig 2014-2020.

Awst – hyd yma      Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn mapio gan ddefnyddio’r fethodoleg a argymhellir gan y Comisiwn, ond mae angen rhagor o ddata am bridd cyn gallu cynnal y modelau terfynol.  Gofynnwyd i’r Sefydliad Cenedlaethol Ymchwil Pridd )NSRI), Cranfield am wybodaeth.

Dechrau 2012          Nid yw’r Comisiwn wedi pennu amserlen ar gyfer y broses hon, ond mae Defra wedi cynnig bod gwledydd Prydain yn cwblhau’u gwaith ailfodelu erbyn dechrau 2012.

Ion– Chw 2012        Bydd Defra yn rhannu rhagor o efelychiadau mapio â’r Comisiwn pan fydd yr holl weinyddiaethau datganoledig wedi cwblhau’r ymarferiad.

Y dyddiad bras ar gyfer cwblhau Ymarferiad yr UE yw 2014, ond nid yw’r Comisiwn wedi pennu amserlen ffurfiol.